Agenda - Y Cyfarfod Llawn


Lleoliad y cyfarfod:

Y Siambr - Y Senedd

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 23 Hydref 2024

Amser y cyfarfod: 13.30
 


237(v4)  

------

<AI1>

Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

</AI1>

<AI2>

1       Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio

(45 munud)

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

</AI2>

<AI3>

2       Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol

(45 munud)

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

</AI3>

<AI4>

3       Cwestiynau Amserol

(20 munud)

I ofyn i’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

James Evans (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn eu cael gyda Cyfoeth Naturiol Cymru ynghylch eu Hadroddiad Blynyddol a Chyfrifon ar gyfer 2023-24 sy'n cynnwys manylion ymchwiliadau Cyllid a Thollau EM i gydymffurfiaeth hanesyddol Cyfoeth Naturiol Cymru â gofynion gweithio oddi ar y gyflogres, a maint yr atebolrwydd posibl a allai fod yn ddyledus?

I ofyn i’r Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch

Cefin Campbell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff Llywodraeth Cymru egluro’r cymorth ariannol sydd ar gael i brifysgolion Cymru sydd mewn perygl, yn dilyn llythyr y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch at Aelodau'r Senedd ar 16 Hydref 2024?

</AI4>

<AI5>

4       Datganiadau 90 Eiliad

(5 munud)

</AI5>

<AI6>

5       Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Cymorth i farw

(60 munud)

NDM8656 Julie Morgan (Gogledd Caerdydd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi nad yw'r cyfrifoldeb dros ddeddfu i ganiatáu cymorth i farw wedi ei ddatganoli i Gymru, gan ei fod ar hyn o bryd yn fater a gaiff ei lywodraethu gan gyfraith droseddol. 

2. Yn nodi, pe bai cymorth i farw yn cael ei gyfreithloni, ac o ystyried ei chyfrifoldeb dros iechyd a gofal cymdeithasol, y byddai angen i Lywodraeth Cymru gael dealltwriaeth fanwl o unrhyw gynigion.

3. Yn credu y dylai oedolyn yn ei lawn bwyll, y mae ganddo gyflwr corfforol annioddefadwy na ellir ei wella ac y mae wedi nodi ei ddymuniad clir a phendant i farw, gael yr opsiwn o gymorth i farw, yn ddarostyngedig i fesurau diogelu cadarn.

4. Yn nodi bod ymchwiliad diweddar gan Bwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol San Steffan wedi canfod cysylltiad rhwng cyflwyno cymorth i farw a gwelliant o ran gofal lliniarol mewn sawl awdurdodaeth.

5. Yn nodi bod y Swyddfa Economeg Iechyd wedi canfod, hyd yn oed pe baent yn cael y feddygaeth liniarol orau, y byddai o leiaf 5,000 o bobl y flwyddyn yng Nghymru a Lloegr yn marw heb unrhyw ffordd effeithiol o leddfu eu poen yn eu mis olaf.

6. Yn nodi bod agweddau'r cyhoedd at roi cymorth i farw wedi newid, gyda hyd at 88% o'r cyhoedd yn ffafrio newid y gyfraith.

7. Yn nodi, o ran pobl o'r DU sy'n dioddef, bod mwy nag un yr wythnos bellach yn dewis dod â'u bywyd i ben yn un o ganolfannau diwedd oes y Swistir, a bod llawer yn rhagor a fyddai'n dewis gwneud yr un peth ond sy’n methu â fforddio'r costau uchel perthnasol, sy’n aml ymhell dros £10,000.

8. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) cefnogi egwyddorion cymorth i farw; a

b) cefnogi senedd San Steffan i gyflwyno deddf dosturiol o ran cymorth i farw yng Nghymru a Lloegr.

Cyd-gyflwynwyr

Heledd Fychan (Canol De Cymru)

Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr)

James Evans (Brycheiniog a Sir Faesyfed)

Cefnogwyr

Carolyn Thomas (Gogledd Cymru)

Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)

Mick Antoniw (Pontypridd)

Rhys ab Owen (Canol De Cymru)

</AI6>

<AI7>

6       Dadl ar y cyd ar adroddiadau gan Bwyllgorau - Cynllun Ffermio Cynaliadwy a Chyswllt Ffermio

(90 munud)

NDM8702 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod y Senedd yn nodi:

1. Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ar gynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer Cynllun Ffermio Cynaliadwy a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Gorffennaf 2024, ac y gosodwyd ymateb iddo gan Lywodraeth Cymru ar 16 Hydref 2024;

2. Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ar y rhaglen Cyswllt Ffermio a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Mehefin 2024, ac y gosodwyd ymateb iddo gan Lywodraeth Cymru ar 16 Hydref 2024; a

3. Adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith ar Gynigion ar gyfer Cynllun Ffermio Cynaliadwy a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Gorffennaf 2024, ac y gosodwyd ymateb iddo gan Lywodraeth Cymru ar 11 Medi 2024.

Cyd-gyflwynwyr

Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru)

</AI7>

<AI8>

7       Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Deisebau - Cymdeithas heb arian parod? P-06-1335: Dylai Llywodraeth Cymru gymryd camau i sicrhau y gall oedolion agored i niwed heb gerdyn banc dalu ag arian parod

(30 munud)

NDM8700 Carolyn Thomas (Gogledd Cymru)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deisebau, ‘Cymdeithas heb arian parod?: P-6-1335 Dylai Llywodraeth Cymru gymryd camau i sicrhau y gall oedolion agored i niwed heb gerdyn banc dalu ag arian parod’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Mehefin 2024

Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Hydref 2024

Dogfennau ategol

Adroddiad y Pwyllgor – Fersiwn Hawdd ei Darllen

</AI8>

<AI9>

8       Dadl Plaid Cymru - Cyllideb Llywodraeth y DU

(60 munud)

NDM8701 Heledd Fychan (Canol De Cymru)

Yn cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi:

a) cyllideb Llywodraeth y DU sydd ar ddod; a

b) y sefyllfa cyllid cyhoeddus hynod heriol, gyda chyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol bresennol gwerth £700 miliwn yn llai mewn termau real o'i gymharu â phan gafodd ei gosod gyntaf.

2. Yn gresynu fod Llywodraeth Lafur y DU wedi gwrthod:

a)  darparu unrhyw gyllid canlyniadol i Gymru o brosiect HS2;

b) datganoli Ystâd y Goron yng Nghymru i sicrhau bod elw o'i hasedau yn mynd yn syth i gyllideb Cymru; ac

c) disodli fformiwla Barnett gyda fframwaith ariannu sy'n seiliedig ar anghenion.

3. Yn gresynu at fethiant y 'bartneriaeth o bŵer' rhwng Llywodraeth Lafur Cymru a Llywodraeth Lafur y DU i sicrhau buddion diriaethol i Gymru.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i osod gofynion brys ar Lywodraeth Lafur y DU, ac i gyhoeddi'r ohebiaeth, gan ofyn i'r gyllideb gynnwys:

a) ailddosbarthu HS2 yn brosiect i Loegr yn unig;

b) ymrwymiad bod Cymru'n derbyn £4 biliwn o gyllid canlyniadol HS2, fel y mae Gweinidogion Llywodraeth Cymru ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi galw amdano;

c) ymrwymiad i ddatganoli Ystâd y Goron cyn gynted â phosibl, gydag amserlenni perthnasol;

d) ymrwymiad i ddisodli fformiwla Barnett cyn gynted â phosibl, gydag amserlenni perthnasol;

e) ymrwymiad i adfer lwfans tanwydd y gaeaf i bensiynwyr; ac

f) ymrwymiad i gael gwared ar y cap budd-dal dau blentyn.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Dileu'r cyfan a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi cyllideb Llywodraeth y DU sydd ar ddod.

2 Yn gresynu fod Llywodraeth Lafur y DU wedi gwrthod:

a) dileu'r toriad mewn taliadau tanwydd gaeaf, a fydd yn gweld tua 400,000 o aelwydydd yng Nghymru yn colli hyd at £300 y pen; 

b) diystyru unrhyw gynnydd i gyfraniadau yswiriant gwladol;

c) sicrhau bod Cymru'n derbyn ei symiau canlyniadol o HS2;

d) ariannu'r gwaith o drydaneiddio prif reilffordd Gogledd Cymru; ac

e) cyflwyno trefniant ariannu newydd i Gymru i ddisodli'r fformiwla Barnett hen ffasiwn.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i osod gofynion brys ar Lywodraeth Lafur y DU, ac i gyhoeddi’r ohebiaeth, gan ofyn i'r gyllideb gynnwys cynlluniau i:

a) dileu toriad taliadau tanwydd y gaeaf;

b) sicrhau nad oes cynnydd i gyfraniadau yswiriant gwladol;

c) galluogi Cymru i dderbyn ei chyfran deg o gyllid canlyniadol HS2;

d) trydaneiddio prif reilffordd Gogledd Cymru; ac

e) dileu'r fformiwla Barnett hen ffasiwn a'i ddisodli â fformiwla ariannu newydd yn seiliedig ar anghenion, sy'n deg, yn dryloyw ac yn darparu ar gyfer pobl Cymru. 

Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-dethol.

Gwelliant 2 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Dileu pwyntiau 2, 3 a 4 a rhoi yn eu lle:

Yn sylweddoli bod y sefyllfa ariannol a etifeddodd Llywodraeth Lafur y DU gan Lywodraeth flaenorol y DU yn un hynod heriol.

Yn cydnabod bod ethol Llywodraeth newydd y DU yn gyfle i ailosod a gwella’r berthynas rynglywodraethol.

Yn nodi mai blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer cyllideb Llywodraeth y DU yn yr hydref yw:

a) cynnydd mewn gwariant adnoddau a chyfalaf uwchlaw’r lefel a bennwyd gan Lywodraeth flaenorol y DU;

b) hyblygrwydd cyllidebol ychwanegol;

c) rhaglen fuddsoddi ar y cyd i fynd i'r afael â diogelwch tomenni glo; a

d) ymrwymiad i ragor o drafodaethau am gyllid mewn perthynas â HS2, ac am fuddsoddi yn y seilwaith rheilffyrdd yn y dyfodol.

</AI9>

<AI10>

9       Cyfnod Pleidleisio

 

</AI10>

<AI11>

10    Dadl Fer

(30 munud)

NDM8699 Mike Hedges (Dwyrain Abertawe)

Economi Cymru: problemau strwythurol a'u cywiro

</AI11>

 

<TRAILER_SECTION>

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 5 Tachwedd 2024

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>